1. Cefndir

1.1. Cyflwynir y sylwadau isod mewn ymateb i gais gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad i Mentrau Iaith Cymru gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y Cynllun (drafft) Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.

1.2. Rydym yn canmol y Cynulliad am y datblygiadau cadarnhaol amlwg wnaethpwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Mae'n rhaid cydnabod hefyd bod rhai cyrff eraill o flaen y Cynulliad o ran eu polisïau iaith ar hyn o bryd, ac felly mae angen parhau gyda’r datblygiadau cadarnhaol hyn er mwyn dal i fyny ac i’r cynulliad arwain yn y maes polisi iaith, yn sicr dangos y ffordd i eraill ddylai'r cynulliad wneud os am fod yn “ganolbwynt cenedlaethol bywyd democrataidd yng Nghymru”.

2. Sylwadau cyffredinol

2.1 Recriwtio

Rydym yn falch o weld fod y cynulliad am fabwysiadu’r polisi recriwtio sy’n gofyn am ryw lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o’r Gymraeg ar gyfer pob swydd a hysbysebir. Ond credwn fod angen mynd cam ymhellach a mabwysiadu'r un polisi, o ran ystyried lefelau rhuglder yn y Gymraeg wrth ddyrchafu staff.

2.2 Uchelgais:

Os mae’r uchelgais yw bod yn “wirioneddol ddwyieithog” ac i “aelodau cynulliad, y cyhoedd a’r staff ddewis gweithio neu gyfathrebu’n naturiol drwy ddefnyddio'r naill iaith swyddogol neu'r llall” yna mae angen i'r camau yn y drafft fynd ymhellach o blaid yr iaith Gymraeg: Megis drwy:

2.3 Targedau

Mae prinder targedau penodol o fewn y drafft, megis targedau o ran % penodol o staff yn gallu cyrraedd lefelau uwch rhuglder yn y Gymraeg, neu ganran penodol o staff yn mynychu cyrsiau fydd yn gwella eu sgiliau iaith, heb dargedau penodol anodd yw mesur llwyddiant

2.4 Hybu

Er mwyn cyflawni dyletswydd o dan y Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 i drin y ddwy iaith yn gyfartal, mae angen hybu'r iaith sy'n israddol ar hyn o bryd, sef y Gymraeg. Felly mae’r uchelgais "lle caiff y defnydd o'r ddwy iaith ei annog a'i hwyluso yn frwd" angen newid, oherwydd nid oes angen annog a hwyluso'r iaith Saesneg, dim ond yr iaith Gymraeg, gan fod y Saesneg yn amlwg yn brif iaith bresennol y Cynulliad ar hyn i bryd.  Dim ond pan mae'r ddwy iaith yn gyfartal o ran defnydd y mae “annog a hwyluso yn frwd” ei angen i’r ddwy iaith.

Adran 3: Sylwadau Penodol ar y Cynllun drafft

3.1 Paratoi ar Gyfer y Cyfarfod Llawn

Nid oes angen eithriad yma (1.2) mae eithrio ar unrhyw beth yn gosod y Gymraeg dan anfantais, felly ni welwn fod angen eithriad wrth osod rheol fod pob Bil sy’n cael ei ystyried gan y Cynulliad yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Argymhellwn fod angen newid pwyntiau 1.5, 1.6, 2.5 a 2.6- mae angen i'r cynulliad wirio o flaen llaw fod y dogfennau sy’n cyrraedd yn uniaith Saesneg ddim wedi dod gan sefydliad sydd i fod i gyflwyno'r fath beth yn ddwyieithog o dan y Safonau. Ac os ydynt wedi dod gan y fath sefydliad mae angen i'r cynulliad wrthod eu derbyn hyd nes eu bod yn y ddwy iaith, dim ond drwy gefnogi'r Safonau yn y fath ffyrdd y mae’r Safonau yn mynd i gael effaith er gwell, a gan fod y Cynulliad yn “ganolbwynt cenedlaethol bywyd democrataidd yng Nghymru” mae rôl gan y cynulliad i sicrhau fod hyn yn digwydd.

3.2 Cymryd Rhan ym Musnes y Cynulliad

Cyfieithu- (3.2 a 3.3) Credwn fel Mentrau Iaith y dylai cyfieithu ar y pryd, o'r Saesneg i'r Gymraeg, fod ar gael. Rhan hanfodol o gyfathrebu yw gwrando, felly os cyflawni'r uchelgais mae angen i bawb allu gwrando yn yr iaith yr hoffent wrando, sydd wedyn yn gwneud hi’n haws iddynt ymateb yn eu hiaith o ddewis. Dylai siaradwyr Cymraeg sy’n ymweld â’r cynulliad hefyd fedru gwrando ar drafodaethau yn y Gymraeg, fel arall nid yw’r ddwy iaith yn cael eu trin yr un fath.

3.3 Cofnodi’r Cyfarfod Llawn a Chofnodi Cyfarfodydd Pwyllgor

Os yw’r Cynulliad eisiau i “defnydd o’r ddwy iaith (gael) ei annog a’i hwyluso yn frwd” yna mae’n rhaid i'r cofnodion gael eu cyhoeddi yn y ddwy iaith yr un pryd (4.1, 4.2 a 5.1, 5.2), mae cyhoeddi'r Gymraeg ar ôl y Saesneg yn tanseilio’n syth unrhyw uchelgais i drin y ddwy iaith yr un fath. Byddai cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg yn gallu cefnogi’r nod posib o gyhoeddi cofnodion yn gydamserol.

3.4 Gymorth i Gomisiwn y Cynulliad

Cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg fyddai’r Mentrau iaith yn hoff o gael ei weld yn cael ei ychwanegu yma (6.2)

3.5 Grwpiau Trawsbleidiol

Eto codi'r y mater o gyfieithu ar y pryd (7.1), awgrymir ail feddwl am y geiriau “ar gais” ac ystyried bod cyfieithu ar y pryd o’r naill iaith i'r llall ar gael ymhob cyfarfod o'r grwpiau trawsbleidiol.

Awgrymir y cynllun drafft ar hyn o bryd, drwy gynnwys y geiriau “ar gais” (am gyfieithu o’r Gymraeg i'r Saesneg)  yn yr adran hon, fod y Gymraeg yn iaith weledol yn unig , hynny yw i'w defnyddio pan mae i'w gweld yn y trafodion swyddogol, yn hytrach na wedi ei gwreiddio ym musnes dydd i ddydd y cynulliad, fel mewn cyfarfodydd o'r Grwpiau Trawsbleidiol. Awgrymir y geiriau “ar gais” fod angen trefniant o flaen llaw i gyfieithu mewn grŵp trawsbleidiol, sydd wedyn yn gwneud i'r person sydd eisiau siarad Cymraeg orfod meddwl os yw hyn ar gael i eraill a’i pheidio, ac os nad yw ar gael mae ganddynt ddewis o gyfrannu yn Saesneg, neu orfod dal gwaith y grŵp yn nôl drwy ofyn i gyfieithu fod yn bosib, neu ar y gwaethaf gohirio cyfarfod. Ni ddylai unrhyw siaradwr Cymraeg byth gael ei roi yn y sefyllfa yma.

Ond yn fwy na dim nid yw “ar gais” yn mynd i ysbrydoli dysgwyr sydd ella am roi ymgais ar gyfrannu'n Gymraeg, anodd iawn fyddai gwneud hynny heb wybod os yw’r cyfieithu yn sicr yn mynd i fod ar gael, ymhob cyfarfod, bob tro.

3.6 Hysbysebion a gohebiaeth etholaethol Aelodau'r Cynulliad

Mae’r gronfa cyfeirir ati i’w chroesawu yn sicr, ond dylid cynnwys geiriad megis “awgrymir” neu “anogir” i aelodau ddefnyddio'r gronfa, dydi bod y gronfa ar gael ddim yn ddigon yn ei hun, mae peidio ac “awgrymu” neu “annog” defnydd y gronfa yn ei hun yn tanseilio’r Gymraeg.

3.7 Cefnogi a Datblygu Sgiliau iaith

Credwn fod y datblygiadau yn ystod y cynulliad diwethaf, o dan y teitl Tîm Sgiliau Iaith, i’w canmol, braf bydd gweld y datblygiadau hyn yn parhau ac ymestyn yn ystod y pumed Cynulliad.

Un peth i'w ystyried yw’r “llinynnau gwddf 'Iaith Gwaith' neu 'Dysgwr’” (9.3), er y gellir gweld fod y rhain yn gweithio ar hyn o bryd, mae angen ystyried newid i'r system yn y tymor hir. Yn y pen draw, os ydym fel cenedl i gyrraedd nod y llywodraeth bresennol o beth bynnag Miliwn o siaradwyr Cymraeg, bydd rhaid i'r system yma newid, bydd angen parhau gyda’r llinyn gwddf "dysgwr", ond hepgor yr un “iaith Gwaith” ac yn ei le i'r siaradwyr Cymraeg hynny sydd hefyd yn siarad Saesneg beidio â gwisgo llinyn gwddf o gwbl. Beth sydd angen ei ddatblygu wedyn yw i' rhai hynny sydd ddim gyda'r sgil yma wisgo llinyn gwddf yn esbonio nad ydynt yn gallu siarad yr iaith. Cael cyn lleied â phosib o bobl yn gwisgo llinyn gwddf ddylai'r nod fod yn y pen draw, a drwy gael y bobl hynny sy'n ddwyieithog i beidio gwisgo rhai rŵan bydda hyn yn dangos na gallu'r ddwy iaith yw'r peth cyffredin i wneud.  Efallai fod hi'n fuan i wneud hyn, ond yn sicr dyma gam fydd angen ei gymryd yn y blynyddoedd nesa; ac fel “ganolbwynt cenedlaethol bywyd democrataidd yng Nghymru”, braf byddai gweld y cynulliad yn arwain ar y cam hwn.

3.8 Deunydd cyfathrebu i Aelodau'r Cynulliad gan staff y Cynulliad

Angen ychwanegu “Yn gydamserol” i 10.1 er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y ddwy iaith.

Safonau gwasanaeth ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl Cymru

3.9 Gohebu â'r cyhoedd (e-bost neu gopi caled)

Mae angen i ohebiaeth safonol neu gylchlythyrau sydd yn mynd at bobl tu allan i Gymru (11.3) hefyd fod yn ddwyieithog, hyn am ddau reswm, sef bod cannoedd o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn byw tu allan i Gymru, a hefyd fod angen i sefydliadau Cymraeg arddel yr iaith, nid ei thrin fel ei bod dan glo yn ein gwald ein hunain. Os yw'r ddwy iaith yw trin yn gyfartal mae rhaid i ohebiaeth sydd yn mynd tu allan i Gymru hefyd fod yn ddwyieithog.

3.10 Galwadau Ffôn

Llawer rhu hawdd yw’r frawddeg “neu os yw'n well gan y cwsmer, parhau yn Saesneg” (12.3), mae hon yn frawddeg sy’n tanseilio cynlluniau iaith ac mae angen ei dileu o hwn a phob cynllun arall. Nid yw brawddeg fel hyn yn gwneud dim tuag at drin y ddwy iaith yr un fath. Mae pob cyfrannwr i'r ymatebiad hwn wedi nodi ein bod wedi derbyn y cynnig “o barhau yn Saesneg” rywbryd neu'i gilydd ar y ffon gyda gwahanol endidau, er mwyn sicrhau gwasanaeth, nid yw hyn yn deg ar siaradwyr Cymraeg, nid yw hyn yn trin y ddwy iaith yr un fath. Mae angen dileu'r frawddeg yma a sicrhau fod gwasanaeth Cymraeg ar gael.

Dylai pob neges ffôn (12.4 a 12.5) yn ddieithriad yn ddwyieithog.

3.11 Ein delwedd gyhoeddus:

Mae angen ychwanegu eithriad i 13.1. fel bod modd i'r Cynulliad ddefnyddio deunydd uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol a digwyddiadau uniaith Gymraeg eraill.

Croesawn baragraff 13.2. Gobeithiwn weld y Cynulliad fel sefydliad yn mabwysiadu enw uniaith Gymraeg os bydd yn newid ei enw yn y dyfodol.

3.12 Gwasanaethau ymgysylltu â gwybodaeth gyhoeddus:

Cyfieithu, angen sicrhau fod isdeitlau o'r Saesneg i’r Gymraeg (14.11) yn digwydd a dylid hefyd cyfieithu'r trawsgrifiadau o’r Saesneg i'r Gymraeg.

Safonau gwasanaeth ar gyfer ein staff er mwyn hwyluso gweithio’n ddwyieithog

3.13 Cyfathrebu â staff:

Defnyddir y geiriau “ar gais” unwaith eto yma (21.4), yn gwneud i'r rhai hynny sydd eisiau siarad Cymraeg orfod meddwl a nodi o flaen llaw eu bod yn siarad Cymraeg, nid yw hyn yn trin y ddwy iaith yr un fath, ac yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ddysgwyr roi ymgais ar ddefnyddio’r Gymraeg. Dylai cyfieithu ar y pryd fod ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg ymhob cyfarfod, pob tro, a dylid meddwl am gael y cyfieithu yma o'r Saesneg i'r Gymraeg hefyd.

Gwelir y geiriau “ar gais” eto fyth yn 21.6, eto mae angen newid hwn, drwy ddefnyddio'r geiriau yma mae’r pwyslais ar y rhai hynny sydd eisiau'r gwasanaeth yn y Gymraeg i ofyn, yn hytrach nag ei fod yn rhan annatod o'r sefydliad. Mae hyn yn enwedig yn wir wrth i staff drafod materion sy'n sensitif yn ymwneud â chyflogaeth, gellir rhagweld pobl yn ofn holi am y fath beth oherwydd teimlad y gallai fynd yn ei herbyn. Dylai’r cyfieithu hefyd fod o'r Saesneg i'r Gymraeg, oherwydd natur gymhleth rheolau cyflogaeth dylai'r siaradwr Cymraeg glywed y geiriau yn nôl yn yr iaith y mae hwy am siarad ynddi.

3.14 Gweithio'n ddwyieithog:

Fel soniwyd yn yr adran sylwadau cyffredinol dylid gosod targedau penodol os am wir gynyddu defnydd o'r Gymraeg. Yn yr adran hon gellir hyn fod yn debyg i:

-        Cynyddu’r nifer (gosod % neu ffigwr penodol) o unigolion sy’n cyfathrebu drwy’r Gymraeg rhan fwyaf o'r amser

-        Targed ar gyfer adrannau unigol yn gweithio drwy'r Gymraeg, dim ond drwy osod targedau y mae posib cyrraedd yr uchelgais fod staff yn cael “dewis gweithio” yn yr iaith yr hoffent. Yn yr un modd os am “annog a hwyluso yn frwd” rhaid gosod targedau sydd yn gallu cael eu mesur.

3.15 Strategaeth Sgiliau Dwyieithog:

Targedau sydd eto ar goll yn yr adran hon, angen gosod targed o % o staff fydd wedi cyflawni lefelau uwch o ruglder yn y Gymraeg, a hynny cyn terfyn amser penodol.

Beth am ddefnyddio cynllun sabothol i staff fynd i ddysgu’r Gymraeg am gyfnod fel sydd yn digwydd efo gwasanaeth sifil  Gwlad y Basg – gan fanteisio ar ddatblygiadau newydd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, ella creu partneriaeth arloesol gyda'r ganolfan fydd yn enghraifft o Arfer Dda i weddill y gwasanaethu cyhoeddus yng Nghymru?

3.16 Rhaglen gynefino ac ymwybyddiaeth:

Credwn y dylai pob aelod o staff newydd gael hyfforddiant Cymraeg os nad ydynt yn gallu siarad yr iaith (24.2) byddai hyn yn golygu nad oes neb yn dechrau gweithio heb fod yn gwisgo'r llinyn gwddf “Iaith gwaith” neu “dysgwr”, dylid cael yr ymrwymiad i ddysgu gan bob aelod o staff newydd. Os oes angen y lefel cwrteisi i gael swydd, yna os bosib fod pob aelod newydd o staff yn ddysgwr?

4. Themâu ar gyfer cyfnod y cynllun hwn

4.1 Thema 1: Recriwtio

Fel soniwyd yn y sylwadau cyffredinol mae’r thema recriwtio i’w ganmol, ond angen mynd ymhellach a defnyddio rhuglder iaith fel llinyn mesur angenrheidiol wrth ddyrchafu staff hefyd.

Beth am fynd allan i ysgolion i hyrwyddo’r Cynllun yma a thrafod  Creu Marchnad Lafur Cymraeg lleol, ella bydda modd gweithio ar gynllun efo Mentrau lleol ? Rydym angen hysbysu disgyblion a'u teuluoedd o'r newidiadau sydd wedi digwydd gyda’r Safonau, er mwyn rhoi tegwch iddynt wrth edrych tuag at eu dyfodol, fel arweinydd cenedlaethol mae gan y Cynulliad rôl i chwarae yn hyn.

4.2 Thema 3: Cynllunio Ieithyddol:

Croesawn y ffaith fod cydnabyddiaeth ffurfiol yn mynd i gael i roi i staff sydd yn ymwneud a’r Tîm Sgiliau Iaith, mae’n hanfodol fod pobl yn gweld y Gymraeg fel sgil sylfaenol sydd yn hwb i'w gyrfa, ac mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir.

4.2 Thema 5: Datblygu Ethos Dwyieithog y Sefydliad.

Pam mae dim ond yn 2016 cafwyd wythnos o weithgareddau yn cyd-fynd gyda’r “Diwrnod shwmae/ sumae”, pam ddim gwneud hyn bob blwyddyn? Hefyd beth am ddefnyddio dyddiau eraill, megis Dydd Miwsig Cymru, i hyrwyddo’r iaith?

5. Trefn ar gyfer Monitro ac Adrodd Nôl

5.1 Mae Mentrau Iaith Cymru yn diolch am y cyfle i ymateb i'r cynllun, beth am fynd gam ymhellach a chael yr endidau sydd wedi ymateb i gymryd rhan mewn monitro achlysurol o’r cynllun?